R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad Llywodraeth Cymru o'r Polisi Amaeth Cyffredin diwygiedig yng Nghymru? OAQ(4)1600(FM)W TYNNWYD YNOL
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canol trefi yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1589(FM)
3. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rôl menywod yn economi Cymru?OAQ(4)1598(FM)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i bobl â dementia yng Nghymru?OAQ(4)1602(FM)
5. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru? OAQ(4)1597(FM)
6. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad uned iaith Gymraeg y Llywodraeth? OAQ(4)1596(FM)W
7. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o wasanaethau newyddenedigol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1591(FM)W
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith costau byw ar deuluoedd yng Nghymru?OAQ(4)1590(FM)
9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch adleoli Trident i Gymru?OAQ(4)1606(FM)
10. Julie James (Gorllewin Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trefniadau trawsffiniol ar gyfer gwasanaethau iechyd?OAQ(4)1601(FM)
11.
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth yw’r amserlen ar gyfer datblygu map newydd yng
nghyswllt darparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llywodraeth
leol? OAQ(4)1605(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau Estyn o ran presenoldeb yn yr ysgol yng Nghymru?OAQ(4)1604(FM)
13. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru?OAQ(4)1607(FM)W
14. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru hyd 2016?OAQ(4)1592(FM)
15. Sandy Mewies (Delyn):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o'r ffigurau digartrefedd diweddaraf yng Nghymru?OAQ(4)1599(FM)